top of page

Amdanom Ni / About Us

Siôn Wyn Jones

 

Cafodd y twrnament 'Siôn Wyn 7's' cyntaf ei gynnal yn 1995. Mae'r twrnament wedi ei henwi yn deyrnged i fachgen ifanc, a fu'n ran mawr o Glwb Rygbi Machynlleth am flynyddoedd. Roedd Siôn Wyn Jones yn flaenasgellwr talentog a phoblogaidd iawn o fewn y Clwb a'r gymuned ym Machynlleth, a braint yw cael ei enw ar ddigwyddiad mwyaf blaenllaw Clwb Rygbi Machynlleth. 

 

Mae llwyddiant cystadleuaeth y 'Sevens' yn ystod y blynyddoedd wedi bod yn wych, ac mae'r diolch i'r noddwyr sydd wedi noddi'r twrnament, i bwyllgor y Clwb ac i'r chwaraewyr a'r cefnogwyr sydd yn gweithio'n galed drwy'r flwyddyn i sicrhau llwyddiant y digwyddiad. Gobeithiwn y bydd yn ddiwrnod cofiadwy, wrth i ni gyrraedd ein 25ain flwyddyn a phob lwc i bawb a fydd yn cystadlu!

The 'Siôn Wyn 7's' tournament was established in 1995 and is a tribute in memory of a young man, who had been a large part of Clwb Rygbi Machynlleth for years. Siôn Wyn Jones was a talented flanker and a very popular character within the club, and the community in Machynlleth, and it is a privilege for us to carry his name on Clwb Rygbi Machynlleth's foremost event.

 

The success of the 'Sevens' competition over the years has been excellent, thanks to those who sponsor the tournament, the Club's committee and to the players and supporters who work hard throughout the year to ensure the success of the event. We hope that it will be a memorable day again in 2020,as we reach our 25th year and we wish the best of luck to all who compete!

 

Rhys Morris 

Cadeirydd Clwb Rygbi Machynlleth / Chairman of Clwb Rygbi Machynlleth

bottom of page